Gwyliau

Gwyl Fwyd a Chrefftau’r Frenni 2011

Eleni eto bydd criw o Bloveilh (gefeilldref Crymych) yn Llydaw yn mynychu’r wyl i gynnig blas ac awyrgylch Lydewig i’r gweithgareddau. Yn ogystal â gwneud crepes (pancos) ychwanegir at y blas Celtaidd gan ddau o gerddorion y grwp gwerin Dremmwel sef Dominique Le Guichaoua a Rene Marchand a fydd yn chwarae offerynnau traddodiadol Llydaw sef y biniou a’r bombard. Mae’r ddau wedi bod yn cyfeilio i grwpiau dawnsio gwerin ac mewn nosweithiau “Fest Noz” ledled Llydaw am dros 35 mlynedd ac eleni fel aelodau o Dremmwel maent yn dathlu 25 mlynedd o berfformio ledled Ewrop ac yn yr Unol Daleithiau. Bu Dremmwel yn perfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bro Preseli yn 1995 ac yn ddiweddarach yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd ac mewn llawer Gwyl Werin arall yng Nghymru. Cynhelir sesiynau hyfforddi dawnsfeydd traddodiadol Llydaw hefyd yn ystod y dydd.