Lleolir pentref prysur Crymych rhwng
y Frenni Fawr a Foel Drygarn, 240 metr/800 troedfedd
uwchben y môr. Ystyrir y pentref yn ganolfan
ddiwylliannol, addysgol a masnachol i’r pentrefi cyfagos.
Mae Mynyddoedd y Preselau oddi amgylch yn gyforiog o
chwedlau ac yn ymhŵedd y sawl sydd â’i fryd ar gerdded.
Pentref Crymych yw tarddle afonydd Taf a Nyfer a
blaenddyfroedd Cleddau Ddu.


ENW
Defnyddiwyd yr enw Crymych ers yr Oesoedd Tywyll er na
ddatblygodd y pentref ei hun nes dyfodiad y rheilffordd.
Dros y canrifoedd sillafwyd yr enw mewn amrywiol ffyrdd
a cheir nifer o ddamcaniaethau ynghylch ei darddiad. Yr
esboniad arferol yw bod yr elfen Crym yn golygu ‘plyg’
ac ych, wrth gwrs yn cyfeirio at yr anifail o’r un enw.
Esboniad arall yw bod Crymych,Crummuch neu Crymig yn enw
ar nant. Ceir y cyfeiriad cynharaf mewn disgrifiad o
Gantref Cemais yn 1468.
AMAETHYDDIAETH
Fe fu amaethyddiaeth yn rhan allweddol o’r economi lleol
erioed. Cynhaliwyd y sioe amaethyddol gyntaf yn 1909 a’r
dosbarth mwyaf oedd y Gwartheg Duon Cymreig. Sefydlwyd
Cymdeithas Amaethwyr Crymych a’r Cylch yn 1908. Lleolwyd
y stôr yn yr adeilad sydd nawr yn glwb rygbi. Amcan y
busnes oedd ‘Darparu ar gyfer yr aelodau a’r cyhoedd yr
angenrheidiau am brisiau a oedd mor agos â phosib at y
prisiau cyfanwerthu’. Penodwyd William Jenkins yn
rheolwr gweithredol a bu yn y swydd am agos i 40 mlynedd.
Deuai nwyddau i’r Co-op ar y rheilffordd. Yn 1936
cyflwynodd y Bwrdd Marchnata Tato gynllun ar gyfer
cynhyrchu tato had yn ardaloedd Crymych a Boncath.
Cefnogid hyn gan reolwr y Co-op a fyddai’n ymweld â’r
ffermwyr i’w hannog i gymryd rhan. Yn 1976 unodd Co-op
Crymych a’r Ardal â Ffermwyr Clunderwen. Symudwyd y stôr
i leoliad newydd ar heol Hermon.
NEUADD Y FARCHNAD
Ffermwyr a gwŷr busnes mentrus lleol ffurfiodd ‘Cwmni
Neuadd y Farchnad Cyf’ yn 1911. Eu bwriad oedd ‘codi
neuadd a fyddai’n ddigon mawr i gynnal marchnadoedd
cyfarfodydd cyhoeddus, adloniant a chyfarfodydd o bob
math’. Prynwyd darn o dir yn 1914 ac agorwyd y neuadd yn
swyddogol ar 23 Mehefin 1919. Deil trigolion hynaf y
pentref i gofio’r marchnadoedd misol prysur,
eisteddfodau a chyngherddau mawr, cyfarfodydd
gwleidyddol ac arwerthiannau cyson. Yn ystod yr Ail
Ryfel Byd defnyddiwyd y neuadd ar gyfer dosbarthu
ifaciwîs o Fryste a Hythe yng Nghaint i gartrefi lleol.
Fe’i defnyddiwyd hefyd gan y Gwarchodlu Cartref ar gyfer
ymarfer saethu a chroesawyd y GI’s Americanaidd i gael
coffi a chacennau’n ddyddiol. Dros y blynyddoedd
goroesodd yr adeilad mewn cyflwr da ac mae hynny’n glod
i’r adeiladwyr gwreiddiol,Meistri’r Brodyr Young o
Langolman.
CAPELI
Codwyd Capel yr Annibynwyr, Antioch, yn 1845 ar dir a
roddwyd gan ffermwyr lleol, a’r fam eglwys oedd Pen-y-groes.
Defnyddiwyd y festri am ddwy awr bob Sul i addysgu plant
i ddarllen ac ysgrifennu. Rhoddwyd organ yn y capel yn
1922. Erbyn hyn mae Antioch yn annedd breifat a
chynhelir oedfaon yn y festri.
Codwyd Capel y Bedyddwyr, Seion yn 1900, a chyn hynny
roedd y gynulleidfa yn cyfarfod mewn tai lleol yn Nheras
Llundain a Fferm y Villa. Ei mam eglwys oedd Capel
Blaenffos. Agorwyd mynwent newydd yn 1926 a chodwyd
festri yn 1930.
ADDYSG
Cyn 1921 byddai’r plant yn mynychu ysgolion Blaenffos a
Hermon. Cynhaliwyd yr Ysgol gyntaf yng Nghrymych yn
Neuadd y Farchnad ac fe’i hagorwyd yn swyddogol ar 3
Ionawr, 1921 gyda 33 o ddisgyblion. Codwyd pared er mwyn
rhannu’r dosbarthiadau a defnyddiwyd y brif neuadd ar
gyfer chwarae ar dywydd gwlyb. Byddai’r bechgyn hŷn yn
chwarae ar Barc y Ffair pan fyddai’n sych. Agorwyd Ysgol
bwrpasol yn swyddogol ym mis Rhagfyr 1933 ar safle’r
Ysgol bresennol ar y ffordd sy’n dirwyn i Hermon. Cost y
gwaith adeiladu oedd £3,200 a darparwyd lle ar gyfer 85
o blant mewn tair ystafell ddosbarth yn ogystal ag
ystafell i’r prifathro, 2 ystafell gotiau a chegin,
cegin fach ac ystafell sychu. Byddai plant a lwyddai yn
yr arholiad 11+ yn mynd i Ysgolion Gramadeg Aberteifi
neu Arberth tra arhosai’r lleill yn yr Ysgol gan fynd i
Gilgerran un diwrnod yr wythnos ar gyfer gwersi gwaith
coed a choginio.
Yn 2006 estynnwyd yr Ysgol a’i galw yn Ysgol y Frenni er
mwyn derbyn disgyblion o ysgolion Blaenffos a Hermon.
Ym mis Hydref 1956 dechreuodd y gwaith o adeiladu Ysgol
gyfun ar gyfer yr ardal ar gost o £160,000. Fe’i
hagorwyd ym mis Medi 1958 gan ddarparu llawer o adnoddau
ar gyfer maes llafur eang. Fe’i dynodwyd yn Ysgol
gymunedol o’r cychwyn a chynigwyd nifer o gyrsiau nos
mewn amrywiaeth o bynciau ac roedd yn gartref i nifer o
fuduadau cymunedol. Dynodwyd Ysgol y Preseli yn Ysgol
ddwyieithog swyddogol yn 1990/1. Agorwyd y Ganolfan
Addysg Gymunedol yn 1974. Yn ddiweddarach ychwanegwyd y
pwll nofio a’r ganolfan hamdden, Theatr y Gromlech,
Llyfrgell a Chanolfan E-ddysgu.
DIWYLLIANT
Ymfalchia Crymych yn ei thraddodoadau a’i diwylliant
Cymraeg. Dynoda’r murlun ar fur Neuadd y Farchnad y
Cardi Bach, Twm Carnabwtth sef arwr Terfysg y Beca, yn
ogystal â delweddau haniaethol o ‘Dail Pren’, yr unig
gyfrol o farddonaieth a gyhoeddwyd gan Waldo Williams.
Ar y sgwâr gwelir cerflun llechen yn dynodi’r gefeillio
rhwng Crymych a Ploveilh yn Llydaw. Cerfiwyd cerddi gan
y beirdd lleol W.R. Evans, Tomi Evans a Wyn Owens ar
lechi hefyd. Ganwyd dau fardd nodedig ym Mhentregalar
sef D.J.Davies a enillodd gadair yr Eisteddfod
Genedlaethol yn 1932 a T.E. Nicholas, heddychwr
digymrodedd a garcharwyd am ei argyhoeddiadau. Ymhlith y
gweithgareddau yn Aelwyd ac Adran yr Urdd mae canu
corawl, canu gwerin a roc, a chynyrchiadau drama.
Perfformia’r aelodau ar radio a theledu’n gyson yn
ogystal â chymryd rhan mewn achlysuron a gwersylloedd
rhyngwladol, ac maen nhw’n enillwyr cyson yn Eisteddfod
Genedlaethol yr Urdd hefyd. Bu Côr Cymysg Crymych a’r
Cylch yn cystadlu’n llwyddiannus mewn eisteddfodau bach
a mawr a theithiodd i berfformio dros y dŵr. Sefydlwyd
parti Bois y Frenni yn ystod yr Ail Ryfel Byd a deil i
berfformio o hyd.
Daw cwmniau drama o bell ac agos i berfformio yn Theatr
y Gromlech. Yn 2007 gefeillwyd Crymych â Hlotse yn
Lesotho.
HANES HYNAFOL CRYMYCH
Daethpwyd o hyd i nifer o fwyeill cerrig yn dyddio o’r
cyfnod Neolithig (4400-2300CC) yn yr ardal. Yn y pentref
ei hun gwelir crug ne heneb angladdol o’r oes
Efydd(2300-700CC) lle byddai gŵr pwysig o’r cyfnod
wedi’i gladdu. Mae’r bryniau oddi amgylch yn llawn
tystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal. I’r gogledd
ddwyrain o Grymych gwelir tair carnedd ar y Frenni fawr
a dau grug gladdu arall y nail ochr. Ar ben Foel Drygarn
i’r gorllewin ceir Bryngaer o’r oes Haearn(700CC –AD43)
sy’n amgylchynu tair carnedd fawr yn ôl pob tebyg yn
dyddio o’r oes Efydd. Ceir yno hefyd nifer o feini
hirion yn dyddio o’r cyfnod hwn. Mae’r safleoedd hyn o
bwys cenedlaethol ac wedi’u diogelu fel Henebion
Cofrestredig. Mae’r Mwnt Castell neu’r Domen a adwaenir
wrth yr enw ‘Castell Dyffryn Mawr’ neu ‘Parc-y-Domen’
ychydig i’r gogledd orllewin o’r pentref yn dystiolaeth
o anheddiad yn ystod yr Oesoedd Canol. Cloddiwyd crug
o’r Oes Efydd Ganol yng Nghroes Mihangel yn 1958/9.
Daethpwyd o hyd i bedwar wrn lludw ac fe’u cedwir yn
Amgueddfa Dinbych–y-Pysgod.
MABINOGI – CADAIR MACSEN
Edrydd un o straeon neu fabinogi cynharaf y Cymry am
freuddwyd Macsen Wledig, Ymherodr Rhufain,’Magnus
Maximus’. Wrth freuddwydio gwelodd Macsen Wledig ferch
ifanc, brydferth. Wrth syrthio mewn cariad â hi anfonodd
negeseuwyr o Rufain i chwilio amdani. Daethant o hyd
iddi yn y diwedd yng Nghaernarfon. Teithiodd Macsen i
Gymru er mwyn ei chymryd yn wraig iddo. Tra arhosai yng
Nghymru pederfynodd yr Ymherodr fynd i hela yng
nghyffiniau Caerfyrddin. Ar ei ffordd yno fe fu’n
gwersylla ar ben y Frenni Fawr a hyd y dydd heddiw
adwaenir y fan fel Cadair Macsen. Yn un arall o straeon
y mabonogi, Culwch ac Olwen, adroddir hanes Brenin
Arthur yn arwain mintai ar draws y Preselau yn hela’r
Twrch Trwyth, brenin Gwyddelig a drowyd yn faedd.
PORTHMYN A FFEIRIAU
Oherwydd ei leoliad ar groesffordd chwe heol, byddai
porthmyn yn cyfarfod yng Nghrymych cyn gyrru eu
hanifeiliaid i nifer o gyfeiriadau posib. O Grymych
gellid teithio i’r gogledd ddwyrain trwy Gastellnewydd
Emlyn ac ymlaen i’r Canolbarth a’r Canoldir, ac i’r de
ddwyrain trwy Gaerfyrddin ac ymlaen i Lundain a De
Lloegr. Gwelir Crymych Arms am y tro cyntaf ar gyfrifiad
1861 er dengys map tiroedd caeedig 1812 bod yna adeilad
yno. Dyma lle byddai’r porthmyn yn bargeinio a selio
cytundebau yn ystod Ffair Crymych a gynhelid ddwywaith y
flwyddyn ar 21 Mai a 8 Medi. Cynhaliwyd ffeiriau’n
amlach wrth i’r pentref dyfu. Erbyn 1888 cynhelid dwsin
o ffeiriau blynyddol pwysig yng Nghrymych gan gynnwys
ffeiriau cyflogi. Cynhelid marchnadoedd ar y dydd Mawrth
diwethaf o bob mis. Cynhelir y ffair a gŵyl fwyd
bresennol ar y dydd Mawrth diwethaf ym mis Awst.
DYFODIAD Y RHEILFFORDD
Er bod llawer o feidroedd a ffyrdd yn cyfarfod yn y man
a adwaenir nawr wrth enw Crymych prin fod yna bentref yn
bodoli nes i’r rheilffordd gyrraedd ac fe’i gelwid yn
Iet y Bwlch. Dechreuwyd gosod y cledrau yn Hendy-gwyn ar
Dâf ym mis Tachwedd 1870, a chyrhaeddodd Crymych ym mis
Gorffennaf 1874. Ond ni agorwyd y rheilffordd yr holl
ffordd i Aberteifi tan fis Medi 1886. Adwaenwyd y trén
yn lleol wrth yr enw Cardi Bach, ac roedd y rheilffordd
yn 27½ milltir o hyd. Agorwyd y rheilffordd yn wreiddiol
er mwyn cludo llechi o Gwarre Glôg a mwyn plwm o
Lanfyrnach, er taw cludo cynnyrch amaethyddol oedd yn
cynnal y busnes am flynddoedd lawer. Credir bod y
rheilffordd yn cyflogi dros 80 o bobl, yn yrwyr, dynion
tân, staff y gorsafoedd a gwŷr gwaith cynnal a chadw ar
gyfer y trenau a’r clercod a goruchwylwyr croesfannau.
Byddai nwyddau’n cael eu cludo ar loriau o’r gorsafoedd
wedyn. Datblygodd pentref Crymych o amgylch yr orsaf
rheilffordd. Ehangodd y farchnad a’r ffeiriau wrth i’r
boblogaeth chwyddo a’r cysylltiadau trafnidiaeth wella.
Caewyd y llinell reilffordd yn 1963 ac erbyn hyn fe’i
datgymalwyd yn llwyr ond mae’r llwybr i’w weld yn amlwg
mewn llawer i fan.
TRE’R COWBOI
Ehangodd y pentref yn gyflym wrth i ddynion mentrus
lleol ddatblygu busnesau megis dilledydd, gwerthwr
nwyddau haearn, groser, barbwr, gwerthwr hetiau, crydd a
chyfrwywr. Roedd yna ferandâu ar gyfer clymu ceffylau
wrth du blaen nifer o’r busnesau. Ymdebygai Crymych i
dref yn y Gorllewin Gwyllt gan roi iddo ei lysenw Tre’r
Cowbois. Ysbrydolodd hyn Geraint Griffiths i gyfansoddi
cân o’r enw ‘Cowbois Crymych’. Roedd gan y pentref ei
gyflenwad trydan ei hun mor gynnar â 1928.

Edrych lawr ar Crymych Arms
(Cliciwch ar y llun i gael un mawr) |
Garej Preseli
(Cliciwch ar y llun i gael un mawr) |
Diwrnod Mart Crymych
(Cliciwch ar y llun i gael un mawr) |